llogi ein lleoliad.
Mae ein cartref yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae croeso i chi wneud eich hun yn gartrefol yma hefyd!
Gallwch ddefnyddio ein gofod creadigol ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, lansio cynnyrch, gweithdai – mae popeth yn bosibl.
Pan fyddwch chi’n llogi gofod yma, bydd WIFI am ddim i chi; yn ogystal â byrddau a chadeiriau am ddim cost ychwanegol (heb anghofio am y te a’r coffi diddiwedd hefyd!)
Dyma’r hyn sydd ar gael:
- Lleoliad yng nghanol dinas Caerdydd ger yr orsaf ganolog
- Adeilad newydd modern
- AV yn gynwysedig
- Arlwyo ar gael am gost ychwanegol
- Gellir gosod y gofod fel un ffurfiol neu anffurfiol
- Parcio ar gael ar y safle
- Perffaith ar gyfer cyfarfodydd brecwast/cinio/swper
Cysylltwch â ni...
(+44)02920 100888