Uwch Ddatblygwr stac cyflawn
Rydyn ni'n chwilio am Uwch ddatblygwr stac cyflawn newydd.
Yn eich rôl fel yr Uwch Ddatblygwr stac cyflawn, chi fydd yr arweinydd technegol ar bob prosiect sy'n seiliedig ar y we/apiau sy'n rhan o gylch gwaith ein tîm Digidol. Byddwch yn gyfrifol am wireddu'r prosiect, o'r cynnig gwreiddiol i'r adeg pan fydd yn mynd yn fyw, gan sicrhau bod pob darn o waith sy'n gadael Orchard yn waith o'r radd flaenaf. Mae angen i chi fod â'ch llygaid ar y dyddiad cau gyda dealltwriaeth o daith y defnyddiwr.
Bydd gennych o leiaf 6 blynedd o brofiad a byddwch yn unigolyn creadigol, arloesol, strategol gyda llygaid craff.
Anfonwch eich CV atom a chopi o'ch portffolio (PDF neu ddolen i'r we) at [email protected]
* (Dylai unrhyw ffeiliau digidol fod o dan 10mb)
Rydym hefyd yn hapus i dderbyn copïau wedi'u hargraffu o'ch cais: Orchard, Stryd Masnach, Caerdydd CF10 5DT