Rheoli digwyddiad lansio Caerdydd i Doha.
Y briff
Rheoli lansiad hediadau newydd Qatar Airways o Gaerdydd i Doha – mewn cwta 10 diwrnod!

Amcanion allweddol
- Rheoli digwyddiadau amlweddog dros ddau ddiwrnod
- Creu profiad unigryw nad oedd modd ei brynu - roedd yn rhaid i'r digwyddiad hwn fod yn uchafbwynt y flwyddyn i'r calendr cymdeithasol
- Trefnu artist proffil uchel i berfformio ar gyfer casgliad amrywiol o westeion VIP, gan gynnwys aelodau teuluoedd brenhinol, Prif Weinidog Cymru a chynrychiolwyr o'r wasg ryngwladol mewn cinio mawreddog
- Creu'r cyffro a’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol i gyd-fynd â'r digwyddiad
Ateb
Diwrnod 1
- Rheoli digwyddiad seremoni carped coch ar gyfer yr hediad cyntaf o Doha i faes awyr Caerdydd, gan gynnwys majalis pwrpasol (man cyfarfod); codi waliau lluniau cyfryngau; mwy na 17,000 o rosod coch wedi'u gosod, yn ogystal â goresgyn sialensiau megis newid pwynt ffin y DU, a darparu adloniant ar y tarmac, gyda chroeso cynnes gan Only Boys Aloud a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain's Got Talent.
- Derbyniad a chinio VIP wedi'i gynnal yn y Neuadd Wledda ysblennydd yng Nghastell Caerdydd yng nghanol y ddinas.
Diwrnod 2
- Rheoli cynhadledd i'r wasg ar gyfer y wasg o bob cwr o'r byd, ymdrin â phob elfen o ddylunio ac adeiladu set bwrpasol, elfennau clyweledol, brandio, dodrefn, addurno a threfnu derbyniad ar gyfer y cyfryngau.
- Rheoli trefniadau'r cinio mawreddog yn neuadd fawr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer rhyw 200 o wahoddedigion VIP. Llwyfan pwrpasol yn llenwi un adain gyfan o'r Brif Oriel; gosod goleuadau mewnol ac allanol, gorchuddion piws a sgriniau taflunio LED fformat mawr.
- Roedd adloniant yn y wledd yn cynnwys enillwyr y Classical Brit Awards, Only Men Aloud, perfformiad llawn lliw gan yr LED Ballerinas, a seren y noson, Paloma Faith, a fyddai wedi bod bron yn amhosib i'w sicrhau gyda dim ond 10 diwrnod o rybudd, oni bai am ein tîm Orchard Live - gan danlinellu mantais ein dull cwbl integredig o weithio.
Fe wnaethon ni reoli'r digwyddiad cyfan dros y ddau ddiwrnod - gyda dros 150 o staff yn cymryd rhan, 3 lleoliad gwahanol a 12 is-gontractwr gwahanol - i gyd mewn 10 diwrnod!
Roedd ymateb y cyfryngau cymdeithasol yn wych gyda dros 32,000 o bobl yn hoffi #cardifftogether ar gyfryngau cymdeithasol ac amcangyfrifir ein bod wedi cyrraedd dros 1.3 miliwn ar gyfryngau cymdeithasol.

"Hoffwn i longyfarch a diolch i chi a thîm Orchard am lwyddiant ysgubol y digwyddiadau i ddathlu taith agoriadol y gwasanaeth QR rhwng Doha a Chaerdydd. Roedd y Cinio Mawreddog uwchlaw unrhyw beth rwy'n meddwl ein bod wedi ei brofi o’r blaen. Cawsom adborth cadarnhaol tu hwnt gan bobl oedd yn teimlo'n eithriadol o freintiedig i fod wedi cael gwahoddiad. Ac wedi siarad â’i Ardderchogrwydd Akbar al Baker ddoe, cawsom yr argraff hefyd ei fod yn falch iawn o lwyddiant y digwyddiad."
Debra Barber, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd

