Digwyddiadau a phrofiadau

Fel y cwmni rheoli digwyddiadau annibynnol mwyaf yng Nghymru, mae gennym flynyddoedd o brofiad o reoli galas a chynadleddau yn broffesiynol, a digwyddiadau lansio, dyddiau i ffwrdd i dimau, digwyddiadau arweinyddiaeth a phopeth arall yn y canol. Beth bynnag yw’r achlysur, rydym wrth law i reoli’ch digwyddiad, o’r cysyniad i’r cwblhau.

Clyw Weledol
Arddangosfeydd
Ffrydio Byw
Rheoli Cyrchfannau
Rheoli Cynadleddau Proffesiynol

Dealltwriaeth drylwyr

Mae digwyddiadau a phrofiadau yn dod yn fwy amrywiol, o gynadleddau hybrid a chyfarfodydd rhithwir i weithrediadau cyfranogol a sesiynau byw rhyngweithiol wyneb yn wyneb. Rydym yn rhoi amser i ddeall eich anghenion penodol ar gyfer eich digwyddiad a’r hyn rydych chi eisiau i westeion, cydweithwyr neu fynychwyr ei gael o’r profiad.

Sefydliad caboledig

Mae ein cydweithwyr profiadol yn creu’r opsiynau gorau posibl ar gyfer eich digwyddiad a’ch nodau, boed yn gynyddu presenoldeb, hybu ymwybyddiaeth o frand ac ymgysylltu ag ef, neu sicrhau cyrhaeddiad byd-eang. Mae ein holl waith cynllunio a rheoli digwyddiadau yn cael ei ddyfeisio i sicrhau darpariaeth ddi-dor, trefniadaeth fanwl gywir a phrofiadau cofiadwy. Rydym yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i leoliadau am ddim sy’n cynnwys cysylltu â lleoliadau, cynhyrchu RFPs, hidlo atebion, adrodd ar ganlyniadau, trefnu ymweliadau â lleoliadau a chytuno ar gyfraddau.

A close up photograph of someone creating a live streaming rack. Used for professional digital events.

Mae ein cydweithwyr profiadol yn creu’r opsiynau gorau posibl ar gyfer eich digwyddiad a’ch nodau, boed yn gynyddu presenoldeb, hybu ymwybyddiaeth o frand ac ymgysylltu ag ef, neu sicrhau cyrhaeddiad byd-eang.

Black rectangle showing how many events per year Orchard deals with.
Black rectangle showing how many countries Orchard has done an event in.

Cyflwyno di-fai

Rydym yn cyflwyno digwyddiadau rhithwir, byw a hybrid, cyfunol. Diolch i’n darpariaeth rheoli cyrchfannau a chynadleddau gyflawn, rydym yn arbenigwyr ar ddod o hyd i’r gofod cywir a’i drawsnewid i arddangos eich brand. O ddylunio, adeiladu, dosbarthu, logisteg a gosod, i offer clyweledol (AV) gyda chefnogaeth cyn-gynhyrchu a thechnegol, byddwn yn darparu datrysiad cyflawn, pwrpasol.

Hyder llwyr

Os ydych chi’n trefnu cynhadledd cwmni neu CCB cymdeithas, arddangosfa ar raddfa fawr, neu’n gweithredu brand pop-yp, rydym yn rheoli pob manylyn i sicrhau profiad cofiadwy.

“Every project we have worked with Orchard on has absolutely been a success. We have worked with them on events, designs, exhibitions, copywriting, and photography and filming. Everyone I’ve met at Orchard has been really knowledgeable, helpful and very friendly and I look forward to continuing to work with Orchard for future projects.”
Gemma Roberts
Policy and Public Affairs Manager
British Heart Foundation

Ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda’ch digwyddiad?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd