Rheoli prosiect Arddangosfa Bwyd a Diod ryngwladol.
// Llywodraeth Cymru
Y briff
Ers 2007, rydyn ni wedi cael ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddylunio, adeiladu a rheoli eu stondinau arddangos mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r lleoliadau wedi cynnwys Amsterdam, Lyon, Cologne, Paris, Barcelona, Dubai, Efrog Newydd, Hong Kong; Shanghai a Singapore yn ogystal â sioeau'r DU yn Llundain a Birmingham.

Amcanion allweddol
- Rhoi llwyfan effeithiol i gwmnïau bwyd a diod o Gymru gynnal busnes a dangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer bwyd a diod.
- Mae meintiau'r stondinau yn amrywio o 25 metr sgwâr i 600 metr sgwâr ac mae angen i bob un fod yn agored, yn groesawgar ac yn amlwg, gyda phresenoldeb brand cryf.
- Nod pob arddangosfa yw recriwtio rhwng 3 a 30 o arddangoswyr.
Ateb
Roedd ein datrysiad yn cynnwys dylunio stondinau arddangos; dosbarthu a gosod; yr holl waith cyd-gysylltu â phartneriaid; rheoli prosiectau; cludo cynnyrch; gwaith creadigol a dylunio; cyfieithwyr; datblygu'r we; paratoi pecynnau briffio; rheolaeth gyllidebol; archebu gwasanaethau; a chymorth yn ystod yr arddangosfeydd.
