Hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau.
Manteisiwch ar ein harbenigedd!
Rydyn ni’n gwybod pa mor frawychus ydy sefyll o flaen camera a siarad ar goedd. Mae hi mor bwysig paratoi a bod yn barod ar gyfer unrhyw beth, a sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf cadarnhaol posib. Dyna pam ein bod yn cynnig hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau yn ein pencadlys yng nghanol y ddinas. Rydyn ni’n eitha hyderus yn ein proffesiynoldeb ni o ran delio â’r cyfryngau a sut i ymddwyn o flaen camera.
01
Angen ychydig o gymorth?
Rydych chi wedi dod i’r bobl iawn! Yn ogystal â’n cyfleusterau o'r radd flaenaf, rydyn ni’n cynnal sesiynau hyfforddi dwyieithog wedi’u teilwra’n bwrpasol gan rai o’r hyfforddwyr gorau yn y cyfryngau. Rydyn ni’n gwarantu y gallwn ni wella eich techneg cyfweliad er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich cyfleoedd gyda’r cyfryngau.

02
Manteisiwch ar ein harbenigedd!
Mae llu o bethau’n deillio o hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau. Byddwn ni’n eich helpu i fagu eich hyder o flaen y camera, gan efelychu amgylchedd darlledu go iawn a rhoi cynghorion ar sut i roi atebion hyderus a phositif i gwestiynau a all fod yn anodd ar brydiau. Byddwch yn dysgu gan newyddiadurwyr, yn cyfathrebu'n fwy effeithiol, ac yn bwysicaf oll – yn cynyddu eich enw da. Gallwch berffeithio’ch cyfweliadau ar gyfer y cyfryngau gyda chymorth ein harbenigwyr.

03
Angen hyfforddiant mewn lleoliad penodol?
Dim problem. Rydyn ni'n hapus i helpu gyda hynny hefyd!
