Cyngherddau Stadiwm Eirias.
Y briff
Datblygu Stadiwm Eirias Bae Colwyn (sy'n cael ei adnabod nawr am resymau nawdd fel Stadiwm Zip World) yn Ganolfan gyngerdd â chapasiti ar gyfer 15,000.
Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn, gyda'r digwyddiadau'n cael eu noddi gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality.

Profodd blwyddyn Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain yn gatalydd ar gyfer digwyddiadau mawr yn y stadiwm chwaraeon amlbwrpas, wrth i ni gynnal diwrnod dathlu'r Gemau Olympaidd ddydd Gwener 27 Orffennaf 2012, ac yna ddigwyddiad agoriadol Access All Eirias, gyda pherfformiadau gan Olly Murs, Pixie Lott a mwy.
Roedd llwyddiant y digwyddiad yn golygu y byddai Access All Eirias yn dychwelyd i Stadiwm Eirias yn 2013, gyda'n tîm ni yn sicrhau sêr yr X Factor, Little Mix i serennu mewn digwyddiad oedd hefyd yn cynnwys artistiaid blaenllaw fel Conor Maynard a Wiley. Roedd ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar y teulu sef 'Lleisiau yn y parc' gyda The Overtones yn perfformio i dorf o filoedd, fel penllanw i ddigwyddiad llwyddiannus arall.
Yn Access All Eirias yn 2014 gwelwyd y seren fyd-eang Syr Tom Jones a'r enwog Jessie J yn serennu ar nosweithiau olynol, tra yn 2015 fe groesawodd Eirias ei seren fwyaf eto, gyda Syr Elton John yn perfformio i stadiwm orlawn. Parhaodd yr enwau chwedlonol yn 2016, gydag Orchard Live yn sicrhau'r seren Lionel Richie a fu'n swyno'r dorf gyda'i gatalog o ganeuon enwog, ac yna Bryan Adams yn ymuno â'r rhestr o enwogion yn 2017 cyn Paloma Faith yn 2018.
Mae'r cynhyrchiad wedi ennill gwobrau cenedlaethol am y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - gan ennil Gwobr Partneriaeth Gynhyrchu'r Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol y Gymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored (NOEA) yn 2013, tra bod tîm cyfathrebu a marchnata Conwy hefyd wedi cipio Gwobr Trefnydd Digwyddiadau'r Flwyddyn.
Bu’n timau'n gyfrifol am yr agweddau canlynol: Archebu artistiaid; Tocynnau; Marchnata; Digidol (dylunio logo a datblygu'r we); Cysylltiadau Cyhoeddus; Cynhyrchu Cynllunio a rheoli; Cydgysylltu safleoedd; Rheoli trafnidiaeth a logisteg, Rheoli Llety, Cyd-gysylltu a rheoli'r artistiaid, a rheoli digwyddiadau'n llawn.




