Digwyddiad dathlu Croeso’n Ôl i Dîm Cymru.
Ar ôl cyrraedd eu cystadleuaeth fawr gyntaf ers 1958, gorffennodd Cymru ar frig eu grŵp ym Mhencampwriaeth Ewrop UEFA yn 2016, cyn mynd ymlaen i gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Rhoddodd y daith hynod hon hwb i'r genedl gyfan, ac roedd y gefnogaeth a ddangoswyd gartref ac yn Ffrainc yn syfrdanol ar brydiau. Roedd angen cydnabod ymdrechion tîm Chris Coleman, a gofynnodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ni helpu i gynnal dathliad arbennig i groesawu'r tîm adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ateb
Yn dilyn gorymdaith bws agored drwy ganol y ddinas, cyrhaeddodd y garfan Stadiwm Dinas Caerdydd oedd dan ei sang ar gyfer y dathliadau anhygoel gyda pherfformiadau gan lu o artistiaid o Gymru, gan orffen gyda set gan y Manic Street Preachers. Llwyddodd y rhai a fethodd â chael tocynnau ar gyfer y digwyddiad i wylio'r cyfan ar y teledu, wrth i'r digwyddiad gael ei ddarlledu'n fyw ar BBC1 Cymru.
Roedd ein gwaith ar y prosiect hwn yn cynnwys:
- Rheoli'r digwyddiad yn llawn
- Rheoli’r prosiect
- Rheoli'r cynhyrchiad
- Trefnu a chyd-drafod â'r artistiaid
- Gweithgareddau stadiwm a brandio
- Sgriptio a chydgysylltu â darlledwyr
- Ffilmio’r digwyddiad
- Cynhyrchu ffilm 360

Jonathan Ford, Chief Executive of FAWThe homecoming event was a spectacular success. The whole project was put together in a matter of days involving a great deal of planning and organisation. It was a fitting celebration and the culmination of a magnificent summer.


